Shopping Cart
Your Cart is Empty
Quantity:
Subtotal
Taxes
Shipping
Total
There was an error with PayPalClick here to try again
CelebrateThank you for your business!You should be receiving an order confirmation from Paypal shortly.Exit Shopping Cart

CAPEL HOPE-SILOH,

PONTARDDULAIS

Newyddion diweddaraf - Cwlwm - Cliciwch yma

Ers nifer o flynyddoedd mae aelodau capeli'r Hope a Siloh Pontarddulais wedi dod at ei gilydd i addoli. Yn ystod y cyfnod hwn bu cynnydd sylweddol yn y cynulleidfaoedd, aelodau newydd yn ymuno, cyrddau arbennig llwyddiannus iawn i blant ac i bobl ifainc, ac Ysgol Sul lewyrchus i blant, Clwb Ieuenctid a Chlwb Babanod hefyd. Yn ogystal, fe ail sefydlwyd Dosbarth Beiblaidd.

Erbyn 2008, cyfunwyd y ddwy eglwys yn swyddogol i ffurfio un achos newydd, ac yn 2009 penderfynwyd ar yr enw Hope-Siloh i’r eglwys newydd. Gwerthwyd adeiladau Siloh, ac fe gwblhawyd gwaith adferol sylweddol ar adeiladau’r Hope, ac yno bellach mae cartref yr eglwys. O ran gweinidog, rydym yn rhan o ofalaeth sydd yn cynnwys eglwys Bethesda ym mhentref cyfagos Llangennech.

Darllenwch Cwlwm (cylchlythyr y capel) i glywed ein newyddion diweddaraf.