CAPEL HOPE-SILOH,
PONTARDDULAIS
Clwb Ieuenctid
Mae'r Clwb Ieuenctid yn cwrdd
bob yn ail nos Sul rhwng 6 a 7:30pm
o dan arweiniad y Parch Derek Rees.
Mae nifer dda o bobl ifanc yn mynychu'r clwb.
Estynnir croeso cynnes i bawb!
Chwilio am rywbeth i’w wneud ar nos Sul? Angen rhywle i ymlacio? Os ydych rhwng 10 a 16 oed, clwb Ieuenctid Hope-Siloh Pontarddulais yw’r lle i chi. Yr ydym yn cwrdd bob yn ail nos Sul rhwng 6 a 7.30pm. Bydd Derek a’i ffrindiau yn barod i’ch croesawu. Yr ydym yn cael amrywiaeth o weithgareddau, gemau fel pêl droed, criced, blasu bwydydd gwahanol, playstation, tennis bwrdd a bod yn sili! Rydyn ni newydd archebu bwrdd pŵl newydd, felly mae digon o le i chwarae a rhywbeth at ddant pawb. Mae cyfle i gymdeithasu yno a chwrdd â ffrindiau newydd wrth fwynhau creision a diod. 50 ceiniog yn unig yw’r gost am hyn i gyd, ac os byddwch am ddod â ffrind gyda chi, cofiwch fod croeso i bawb. Edrychwn ymlaen at eich gweld. (Rhys Tiplady)