CAPEL HOPE-SILOH,
PONTARDDULAIS
Ers nifer o flynyddoedd mae aelodau capeli'r Hope a Siloh Pontarddulais wedi dod at ei gilydd i addoli. Yn ystod y cyfnod hwn bu cynnydd sylweddol yn y cynulleidfaoedd, aelodau newydd yn ymuno, cyrddau arbennig llwyddiannus iawn i blant ac i bobl ifainc, ac Ysgol Sul lewyrchus i blant, Clwb Ieuenctid a Chlwb Babanod hefyd. Yn ogystal, fe ail sefydlwyd Dosbarth Beiblaidd.
Erbyn 2008, cyfunwyd y ddwy eglwys yn swyddogol i ffurfio un achos newydd, ac yn 2009 penderfynwyd ar yr enw Hope-Siloh i’r eglwys newydd. Gwerthwyd adeiladau Siloh, ac fe gwblhawyd gwaith adferol sylweddol ar adeiladau’r Hope, ac yno bellach mae cartref yr eglwys. O ran gweinidog, rydym yn rhan o ofalaeth sydd yn cynnwys eglwys Bethesda ym mhentref cyfagos Llangennech.
Mae Eglwys Hope-Siloh yn Sefydliad Corfforedig Elusennol. Gellir darllen y Cyfansoddiad yma.