CAPEL HOPE-SILOH,

PONTARDDULAIS

CAPEL HOPE-SILOH,
PONTARDDULAIS

Click here to edit subtitle

Hanes Uno Eglwysi Hope a Siloh, Pontarddulais

Anerchiad a gyflwynwyd fel rhan o’r Oedfa Ddathlu, 7 Mawrth 2010

 Eric Jones, Ysgrifennydd

 

Heddiw rydym yn cyrraedd carreg filltir bwysig yn ein taith fel Annibynwyr Y Bont. Nid dyma ben y daith, chwaith, gan y gobeithiwn y bydd i ni ddyfodol llewyrchus fel tystion i Iesu Grist yn y fro hon. Nid taith fer bu honno a arweiniodd at sefydlu’r Hope-Siloh newydd yr ydym yn ei dathlu heddiw. Nid taith rhwydd a didrafferth ydoedd chwaith, ond trwy gydweithrediad, amynedd ac aeddfedrwydd meddwl mewn trafodaethau, ynghyd â gofal, dycnwch, manylder a dyfalbarhad wrth gynllunio, gallwn bellach ymfalchïo yn ein llwyddiant. Trwy ras Duw dilëwyd unrhyw amheuon a gododd ar hyd ein taith. Hwyrach y gallai ardaloedd eraill o’r Gymru Gristnogol gyfoes edrych ar yr hyn a wnaethpwyd yma, a dysgu ohono.

 

Erbyn dechrau’r flwyddyn 2001, yr oedd Eglwys yr Hope ac Eglwys Bethesda Llangennech wedi cytuno i rannu gweinidogaeth a gofalaeth newydd, dan arweiniad y Parchedig Llewelyn Picton Jones. Tua’r un adeg daeth ymholiadau o gyfeiriad Siloh yn codi’r posibilrwydd o drafodaethau ar yr egwyddor o’r Hope a Siloh yn cydweithio dan yr un weinidogaeth. Dyna ddechrau’r daith, ac erbyn Ionawr 2002, roedd yr Hope a Siloh wedi cychwyn ar arbrawf o addoli ar y cyd am gyfnod o chwe mis. Yn fuan iawn, sylweddolodd aelodau’r ddwy eglwys fanteision amlwg y cydweithio hwn, a gwelwyd adfywiad calonogol yn ein hoedfaon, gyda syniadau a blaengareddau newydd a chyffrous yn rhan o’n haddoliad.

 

O fis Ionawr 2003 cytunwyd y byddai Eglwys yr Hope ac Eglwys Siloh yn addoli ar y cyd fel un Eglwys, gyda’r oedfaon o ran lleoliad yn cael eu rhannu rhwng y ddau adeilad bob yn ail fis. Gwelwyd Ysgol Sul lewyrchus yn datblygu ac fe aeth yr arbrawf o nerth i nerth.

 

Ar yr un pryd, sylweddolwyd nad oedd modd parhau i gynnal dau adeilad, gyda diffygion arwyddocaol yn amlygu eu hun wrth i’r misoedd a’r blynyddoedd fynd yn eu blaen. Roedd penderfyniadau anodd iawn yn ein haros, a dyma’n taith yn mynd â ni ar lwybrau caregog a thrafferthus. Mewn Cwrdd Eglwys ym mis Ebrill 2005, soniodd ein gweinidog am yr arwydd a welodd tu allan i gapel oedd yn cael ei adnewyddu rai blynyddoedd ynghynt - ‘This church is being rebuilt as an act of faith in God’. Y geiriau hynny a’n hysbrydolodd wrth i ni barhau i droedio’r llwybrau troellog a heriol.

Nid yw’n bosib yma nodi mewn manylder yr hyn a ddigwyddodd dros y flwyddyn dyngedfennol nesaf, ond yn dilyn arolygon pensaernïol, trafodaethau gyda CADW, y Comisiwn Elusennau, asiantaethau amrywiol eraill - llu o gyfarfodydd pwyllgorau a diaconiaid, a Chyrddau Eglwys niferus, daethpwyd i’r casgliad ym mis Rhagfyr 2006, mai’r unig ffordd ymarferol bosib ymlaen oedd gwerthu adeiladau Siloh, ac adfer adeiladau’r Hope. Croesffordd bwysig ar y daith oedd hon, ond roedd tipyn o ffordd i fynd eto.

 

Bagl rwydd iawn i syrthio iddi ar yr adeg honno fyddai i ni roi ein holl egni i faterion yn ymwneud ag adeiladau’n unig. Ond roedd bwrlwm yr uno yn ein hysgogi i edrych o’r newydd ar y ffordd yr oeddem yn addoli, ac yn wir ar fywyd o fewn ein heglwys yn gyffredinol. Ffurfiwyd pedwar o weithgorau bywiog a brwd i edrych ar faterion yn ymwneud a chyfathrebu, addysg, bugeilio ac addoli, a gwireddwyd cynlluniau newydd a chyffrous ym mhob un o’r meysydd hynny. Amrywiaeth yn ein hoedfaon gyda lle i’r plant, pobl ifainc ac oedolion ifainc - defnydd o’r dechnoleg newydd - cylchgrawn y capel - gwefan - cefnogi elusennau - Cymorth Cristnogol, Operation Christmas Child, Wales Romania Aid, World Vision a noddi Octavio ym Mozambique - yr ochr gymdeithasol gyda’r ‘Cyfeillion’ yn arwain y ffordd, a llu o weithgareddau amrywiol er mwyn codi arian. Y cyfan yn pwysleisio ein hundod fel un teulu. Y cyfan yn hwyluso’r daith.

Ond roedd rhaid sicrhau cartref, a dechreuwyd ar y broses o grynhoi cyllid digonol i wireddu’n dyheadau, ac i ennill cefnogaeth y gymuned leol, gan mai’n gobaith oedd gweld defnydd helaeth o’n hadeiladau gan fudiadau a chymdeithasau’r dref. Do, fe wnaethom ni brofi rhagor o gerrig ar y llwybr a sawl tro annisgwyl, ond erbyn Tachwedd 2008, gwagwyd adeiladau’r Hope mewn paratoad ar gyfer y gwaith adfer, ac unwaith eto fe wnaethom ymgartrefu yn adeiladau Siloh ar gyfer ein hoedfaon, yr Ysgol Sul a’n cyfarfodydd amrywiol eraill, wrth ddisgwyl cwblhau’r gwaith yn yr Hope.

Erbyn mis Mehefin 2009, roeddem yn gallu ysgrifennu at Undeb Yr Annibynwyr Cymraeg i ddatgan ein bod bellach wedi uno’n ffurfiol ac yn llwyr fel un eglwys, o dan yr enw Hope-Siloh. Dechreuwyd ar y gwaith adfer ym mis Gorffennaf, gwerthwyd adeiladau Siloh erbyn mis Medi, ac yn dilyn cyfnod byr o gydaddoli gydag Eglwys Y Tabernacl, fe wnaethom ni ail-feddiannu adeiladau’r Hope-Siloh newydd mewn da bryd i ddathlu’r Nadolig 2009.

Fel Cristnogion, edrychwn ar fywyd fel taith - fel pererindod. Ar y ffordd, rydym yn cwrdd â rhwystrau a rhwystredigaethau, ond mae gennym ymdeimlad o bwrpas ac o gyfeiriad. Dewch i bawb ohonom addunedu heddiw i adeiladu ymhellach ar y seiliau cadarn a osodwyd dros y blynyddoedd diwethaf o ran eglwys fyw a bywiog sydd yn tystio i’r ffydd Gristnogol yn yr ardal hon. Dewch i ni addunedu i barhau ar ein taith gyda’n gilydd.