CAPEL HOPE-SILOH,
PONTARDDULAIS
Ysgol Sul
Cynhelir yr ysgol Sul yn wythnosol . Mae'r plant yn ymuno a rhan cyntaf y gwasanaeth ac yna'n mynd allan i'r ysgol Sul.
MIC (Menter Ieuenctid Cristnogol)
Mae capel Hope-Siloh yn rhan o fenter MIC - mudiad cydenwadol newydd i hybu gwaith yr efengyl ym mhlith plant ac ieuenctid Sir Gaerfyrddin.
Clwb Ieuenctid
Mae'r clwb ieuenctid yn cwrdd bob yn ail nos Sul rhwng 6 a 7:30pm. Mae nifer dda o bobl ifanc yn mynychu'r clwb. Estynnir croeso cynnes i bawb!
Clwb Babanod
Cyfle i rieni a babanod (cyn oed ysgol) chwarae, canu a chymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg