CAPEL HOPE-SILOH,
PONTARDDULAIS
Y Parch. Llewelyn Picton Jones, BSc, MEd
50 Heol Glanffrwd,
Pontarddulais,
Abertawe,
SA4 1QE
01792 882889
Hyfrydwch yw cael eich cyfarch trwy gyfrwng gwefan Eglwys Annibynnol Hope-Siloh, Pontarddulais ar yr adeg cyffrous yma yn hanes y capel.
Cefais sawl tro ar fyd ers fy magwraeth ar aelwyd Capel Hebron, Clydach. Yn unol â nifer o drigolion Clydach bu fy swydd gyntaf yng ngwaith nicel y Mond. Treuliais ddwy flynedd yno fel metelegydd cyn symud i fyd addysg, yn gyntaf mewn gwaith gweinyddol ac wedyn fel athro ysgol a darlithydd. Yn dilyn pymtheng mlynedd fel darlithydd yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, profais adnabyddiaeth sicr o’r Arglwydd Iesu Grist, a chael fy ngalw gan Dduw i’r Weinidogaeth Gristnogol rhyw bymtheng mlynedd yn ôl.
Ar ôl cael fy oreinio yn ardal Hendy-gwyn ar Daf, yno y bûm yn weinidog am dros bedair blynedd cyn derbyn yr alwad i Eglwys Bethesda, Llangennech ym 1999, ac wedyn ychwanegu Eglwys yr Hope (2001) ac Eglwys Siloh (2003) i ffurfio Gofalaeth. Mae’r blynyddoedd diwethaf yn y weinidogaeth wedi bod yn flynyddoedd o newidiadau mawr ym Mhontarddulais ond blynyddoedd cyffrous gyda’r Hope a Siloh yn dod at ei gilydd.
Er gwaetha’r difaterwch ysbrydol sydd o’n hamgylch yn ein cymdeithas, rhaid cofio mai'r un yw Duw o hyd -“Gair Ein Duw ni a saif byth”. Y mae’r argyfwng ysbrydol yma yn her i ni ac yn gofyn am ein gweddïau di-baid a’n hymroddiad di-sigl. Gweddïwn am arweiniad Duw ac am Ei fendith ar ein hymdrechion er lles Ei Deyrnas.
Estynnir croeso cynnes i unrhyw un i ymuno gyda ni yn ein haddoliad a’n hamryw weithgareddau.
Felly, croeso mawr i’r wefan! Gobeithio’n fawr y byddwch yn mwynhau dod i’n hadnabod ni.